Cyfrifiad 2021: amcangyfrifon poblogaeth a’u harwyddocâd i’r Gymraeg

Awdur

@statiaith

Cyhoeddwyd

29/11/2022

Cyflwyniad

Mae canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 yn ymwneud â’r Gymraeg i’w cyhoeddi ar 6 Rhagfyr. Ystyrir yma rai o’r canlyniadau a gyhoeddwyd eisoes, sef am faint y boblogaeth, ac fe’u cymherir â’r sefyllfa fel ag yr oedd adeg Cyfrifiad 2011.

Rhagweld canlyniadau y Cyfrifiad am y Gymraeg

Mae Ffig 1 (a) yn dangos y boblogaeth fesul oed yn 2011 a 2021. Mae Ffig 1 (b) yn dangos y ganran oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2011.

Sylwer

Ffordd fras iawn o amcangyfrif faint oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2021 yw defnyddio canrannau 2011 gyda phoblogaeth 2021. Os gwneir hynny amcangyfrifir bod 558,000 o siaradwyr Cymraeg yn 2021, i’w cymharu â’r 548,000 oedd yn 2011, sef newid o 10,000. A’r ganran yn 2021 fyddai 19%, i’w chymharu â 19%, hynny yw, bron yn ddigyfnewid.

Ond amcangyfrifon bras iawn yw’r rheini. Gellir amcangyfrif gan ddefnyddio canrannau a niferoedd ar lefel awdurdod lleol, neu lefel daearyddol mwy manwl. Mae cymaint o ffactorau eraill i’w hystyried mae bron yn ddiwerth mynd i’r trafferth yna. Ond gan fod maint y boblogaeth yn gosod terfyn uchaf ar y nifer o bobl yng Nghymru sy’n siarad Cymraeg, mae’n werth ystyried y goblygiadau posibl i’r newidiadau sy wedi digwydd er 2011.

Mae un peth mae’n rhaid cofio am Gyfrifiad 2021: cafodd ei gynnal yng nghanol pandemig covid-19. Mae cyfrif myfyrwyr prifysgol wastad yn anodd gan y gallent fod wedi eu cyfrif lle mae eu cartref neu yn nhref y brifysgol, gan ddibynnu ar bwy lenwodd ffurflen y cyfrifiad ac a ddarllenon nhw y cyfarwyddiadau. Edrychwch ar Ffig 4 isod i weld pwysigrwydd prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd i’w hawdurdodau lleol.

Pwysigrwydd Addysg

Ond, yn bwysicach byth, caeodd ysgolion am gyfnodau hir, gan dorri ar addysg y plant. Edrychwch ar Ffig 1 (b) ac fe welwch fod canran uchel o blant wedi eu cofnodi fel siaradwyr Cymraeg yn 2011–oherwydd eu bod yn dysgu peth Cymraeg yn yr ysgol mae’n debyg. Yn sicr doedd dim yn agos at 40% o’r plant yn derbyn addysg gyfrwng Cymraeg. Os fydd rhieni Blaenau Gwent, Tor-faen, Casnewydd ac ardaloedd eraill de a gogledd-ddwyrain Cymru wedi teimlo bod eu plant wedi colli cymaint o ysgol fel na fedran nhw esgus eu bod yn siarad Cymraeg bellach, mae’n bosibl iawn y gwelwn ganrannau sylweddol is yn 2021. Ac wrth gwrs mae mewnfudo a gwladychu Cymru wedi parhau, ac ychydig o’r rheini sy;n dod i siarad Cymraeg.

Ar lefel awdurdodau lleol, mae pwysigrwydd arbennig i Wynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin gan eu bod yn cwmpasu rhan helaeth o’r ardal a ystyrid yn Fro’r Gymraeg. Gweler erthygl gen i yng nghylchgrawn ‘Gwerddon’ am drafodaeth o’r newidiadau a welwyd rhwng 1991 a 2001, a’u goblygiadau. Trafodwyd yno bwysigrwydd daearyddiaeth a phroffil oedran y boblogaeth ac erys pwysigrwydd yr elfennau hynny heddiw.

Yn gyntaf, edrychwn ar ddosbarthiad y boblogaeth gyfan. Wedyn cawn olwg ar y proffil oedran, a sut y newidiodd, fesul awdurdod lleol, rhwng 2011 a 2021.

(a) Poblogaeth, 2011 a 2021

(b) % yn gallu siarad Cymraeg, 2011

Ffigur 1: Poblogaeth, 2011 a 2021, a % yn gallu siarad Cymraeg, 2011, ill dau yn ôl oed

Cyfrifiad 2021: poblogaeth

Roedd 44,000 yn fwy o bobl yn byw yng Nghymru yn 2021 nag oedd yma yn 2011, cynnydd o 1.4%. O 4 awdurdod “Y Fro”, dim ond Sir Gaerfyrddin welodd gynnydd. At ei gilydd, roedd 6,000 yn llai o bobl yn byw yn y pedwar awdurdod erbyn 2021.

O ran dyfodol yr iaith , dau beth yn unig all arwain at gynnydd yn y niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg: naill ai fod rhagor o blant yn cael eu geni a’u magu gan eu teuluoedd i siarad Cymraeg, neu mae’n rhaid dysgu rhagor o bobl i siarad Cymraeg, naill ai plant yn yr ysgol, neu oedolion yn ei dysgu. Ac ni fydd cynnydd yn y niferoedd o reidrwydd yn arwain at ganran uwch o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru chwaith: gall allfudo siaradwyr neu fewnfudo gan rai na allant siarad Cymraeg arwain at ostyngiad yn y ganran. Rhaid edrych ar y proffil oedran nesaf.

Datganiad y Wasg, Llywodraeth Cymru

Mae Ffig 2 yn siart traddodiadol, yn dangos y boblogaeth gyfan fesul awdurdod. Mae Ffig 3 yn gartogram lle mae maint ardal yn adlewychu’r boblogaeth dan 15 oed yn 2021. Mae’r ddau’n amlygu mor fach yw’r ganran sy’n byw yn yr ardaloedd traddodiadol Cymraeg.

Ffigur 2: Poblogaeth 2021, pob oed

Ffigur 3: Cartogram: maint awdurdod yn adlewyrchu poblogaeth 2021 dan 15 oed

Newid canrannol o 2011 i 2021

Cyfrifiad 2021: dosbarthiad oed

Cyflwyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hwn yn dangos y dosbarthiad fesul oed unigol yn yr ardal a ddewisir. Os dewisiwch Gaerdydd, Abertawe, Ceredigion a Gwynedd gwelir effaith lleoliad prifysgol: mae mwy o bobl oed ~18-25 nag a geir ym mhoblogaeth gyfan Cymru a Lloegr. Ym Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin mae’n drawiadol fod canran y bobl hŷn - dros 60 oed - yn uwch na’r ganran drwy Gymru a Lloegr. Ym Môn a Cheredigion mae hefyd yn drawiadol fod y canol oed, a’r plant, yn brinnach.

Ffigur 4: Delwedd y Swyddfa Ystadegol Gwladol

Cymharu dosbarthiad oedran 2011 a 2021

O’r boblogaeth gyfan, roedd llai o dan 15 oed yn 2021 (514,000) i’w gymharu â 2011 (519,000): gostyngiad o -1.1%.

Mae Ffig 5 yn dangos y newid mewn 3 grŵp oedran, o dan 15 oed, 16-64, a 65 oed a throsodd, fesul ardal, mewn un llinell. Mae’r awdurdodau lleol wedi eu trefnu yn ôl y newid yn y rhai dan 15 oed.

Mae Ffig 6 yn dangos yr un data ond yn gwahanu’r 3 grŵp oedran fel y gellir gweld yn haws lle bu gostyngiad (pwyntiau i’r chwith o’r llinell fertigol sy’n marcio dim newid) a lle bu cynnydd (pwyntiau i’r dde). Mae’n hawdd gweld fod rhan fwyaf yr awdurdodau wedi gweld gostyngiad yn y ganran o blant dan 15 oed, yn eu plith Ceredigion, lle gwelwyd y gostyngiad mwyaf, Gwynedd a Sir Gaerfyrddin. Yn 2011 roedd 13.8% o’r plant dan 15 oed yn byw yn y 4 sir; yn 2021 roedd 13.4%.

Mae’n ymddangos fod cyd-berthynas rhwng newidiadau y grŵp o dan 15 oed, a grŵp 16-64. (Cyfernod cyd-berthynas Spearman 0.72, p = 0.0002). Wrth gwrs, byddai’n rhyfedd pe na ba cyd-berthynas. Gan mai pobl 16-64 oed sy’n cael plant, os bydd llai ohonynt gellir disgwyl y bydd llai o blant yn cael eu geni.

Yn Ffig 7 gwelir yr un canrannau eto ar y chwith yn Ffig 7 (a) ond ar y dde yn Ffig 7 (b) mae’r bariau’n dangos y newid yn niferoedd y boblogaeth.

Ffigur 5: Newid (%) yn y boblogaeth, yn ôl grŵp oedran, rhwng 2011 a 2021

Ffigur 6: Newid (%) yn y boblogaeth, ar wahân, i oedrannau ‘dan 15’,‘15-64’,‘65+’, rhwng 2011 a 2021

(a) Newid (%)

(b) Newid (nifer)

Ffigur 7: Newid (% a nifer) yn y boblogaeth, yn ôl oedran, rhwng 2011 a 2021

Ffynonellau data
Cafodd ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2011 eu cyhoeddi ar 28 Mehefin 2022 a rhai mwy manwl ar 2 Tachwedd. Dyna ffynhonnell data 2021 a ddefnyddir yma. Daw data Cyfrifiad 2001 o dabl KS102.
Mae’r data a ddefnyddir ar gyfer Cyfrifiad 2021 wedi ei dalgrynu i’r cant agosaf. Ni fydd y canrannau a gyfrifir am y newid o 2011 i 2021 yn hollol gywir o’r herwydd.
Ffynhonnell

ⓗstatiaith

http://statiaith.com