Siarad Cymraeg a NS-SEC
Cyflwyniad
Mae’r dadansoddiad hwn yn ymwneud â’r gallu i siarad Cymraeg (fel y’i mesurwyd yng Nghyfrifiad 2021) a sefyllfa economaidd-gymdeithasol y bobl. Y mesur a ddefnyddir i adlewyrchu honno yn y cyfrifiad yw’r dosbarthiad economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol sydd ‘yn nodi sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolyn yn seiliedig ar ei alwedigaeth a nodweddion eraill sy’n ymwneud â swyddi’.
Dosbarthiad cenedlaethol1
| Cod | Categori | Canran |
|---|---|---|
| L1, L2, L3 | Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch | 10.2 |
| L4, L5, L6 | Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol is | 19.4 |
| L7 | Galwedigaethau canolradd | 11.6 |
| L8, L9 | Cyflogwyr bach a gweithwyr hunan-gofnod | 10.1 |
| L10, L11 | Galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is | 6.2 |
| L12 | Galwedigaethau cyffredin | 13.1 |
| L13 | Galwedigaethau rhannol gyffredin | 13.2 |
| L14.1, L14.2 | Erioed wedi gweithio a phobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers amser hir | 8.5 |
| L15 | Myfyrwyr amser llawn | 7.6 |
Cyn edrych ar y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg, edrychwn ar ddosbarthiad daearyddol y boblogaeth a’u statws economaidd-gymdeithasol.
Dosbarthiad o fewn awdurdodau lleol
Siart rhyngweithiol
(Yn y siart canlynol, gellir clicio ar liw yn yr allwedd i guddio categori.)
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cynhyrchu map sy’n dangos mwy o fanylder: https://www.ons.gov.uk/census/maps/choropleth/work/national-statistics-socio-economic-classification-ns-sec/ns-sec-10a/l1-l2-and-l3-higher-managerial-administrative-and-professional-occupations/
Gwlad enedigol2
Ychydig o bobl a anwyd y tu allan i Gymru sy’n gallu siarad Cymraeg ac felly os bydd cyfran fwy ohonynt mewn categori nid yw’n syndod os bydd canran is yn gallu siarad Cymraeg yn y categori yna nag sy’n gallu siarad Cymraeg mewn categori lle nad oes cymaint wedi dod o’r tu allan i Gymru. Dim ond deg awdurdod lleol a ddangosir yn Ffig 3 a Ffig 4 gan nad oes data am wlad enedigol a chategori NS-SEC ar gael ar gyfer yr awdurdodau eraill.
Yn ôl gallu siarad Cymraeg
I gymharu dosbarthiad siaradwyr Cymraeg â dosbarthiad y rhai na allant siarad Cymraeg, gwneir y gymhariaeth heb gynnwys myfyrwyr gan fod llawer o’r rheini’n fyfyrwyr prifysgol sy’n dod o’r tu allan i Gymru (gweler Ffig 3).
% yn gallu siarad Cymraeg yn ôl dosbarth economaidd-gymdeithasol
Mae graddiant yn amlwg yn rhan fwyaf yr awdurdodau, gyda’r ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn cynyddu wrth symud o’r rhai sydd ‘erioed wedi gweithio…’ drwodd at y rhai sydd yn y ‘galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol is’ cyn i’r ganran ostwng ymhlith rhai y ‘galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch’. Ran amlaf, ymhlith ‘myfyrwyr amser llawn’ y gwelir y canrannau uchaf, heblaw yng Ngwynedd a Cheredigion lle mae presenoldeb myfyrwyr o’r tu allan i Gymru ym mhrifysgolion Bangor ac Aberystwyth yn ddylanwad sylweddol.
Mae ffermwyr wedi eu cynnwys yn nghategori y ‘Cyflogwyr bach a gweithwyr hunan-gofnod’.
Dosbarthiad siaradwyr Cymraeg dros Gymru
Manylion y meddalwedd a ddefnyddiwyd
R version 4.5.1 (2025-06-13 ucrt)
Platform: x86_64-w64-mingw32/x64
Running under: Windows 11 x64 (build 26100)
Matrix products: default
LAPACK version 3.12.1
locale:
[1] LC_COLLATE=Welsh_United Kingdom.utf8 LC_CTYPE=Welsh_United Kingdom.utf8
[3] LC_MONETARY=Welsh_United Kingdom.utf8 LC_NUMERIC=C
[5] LC_TIME=Welsh_United Kingdom.utf8
time zone: Europe/London
tzcode source: internal
attached base packages:
[1] stats graphics grDevices datasets utils methods base
other attached packages:
[1] ggmosaic_0.3.3 plotly_4.11.0 ggplot2_3.5.2 tidyr_1.3.1
[5] dplyr_1.1.4 data.table_1.17.8
loaded via a namespace (and not attached):
[1] gtable_0.3.6 jsonlite_2.0.0 compiler_4.5.1 renv_1.1.5
[5] Rcpp_1.1.0 tidyselect_1.2.1 stringr_1.5.1 productplots_0.1.1
[9] scales_1.4.0 yaml_2.3.10 fastmap_1.2.0 plyr_1.8.9
[13] R6_2.6.1 labeling_0.4.3 generics_0.1.4 knitr_1.50
[17] htmlwidgets_1.6.4 ggrepel_0.9.6 tibble_3.3.0 pillar_1.11.0
[21] RColorBrewer_1.1-3 rlang_1.1.6 stringi_1.8.7 xfun_0.52
[25] lazyeval_0.2.2 viridisLite_0.4.2 cli_3.6.5 withr_3.0.2
[29] magrittr_2.0.3 crosstalk_1.2.2 digest_0.6.37 grid_4.5.1
[33] lifecycle_1.0.4 vctrs_0.6.5 evaluate_1.0.5 glue_1.8.0
[37] farver_2.1.2 rmarkdown_2.29 purrr_1.1.0 httr_1.4.7
[41] tools_4.5.1 pkgconfig_2.0.3 htmltools_0.5.8.1




