Demograffeg

Gwlad enedigol

Mae’r ganran o’r boblogaeth arferol sydd wedi ei geni y tu allan i Gymru wedi cynyddu ymhob cyfrifiad er 1961. Rhwng 2001 a 2011 cynyddodd y ganran o bobl oedd wedi eu geni y tu allan i wledydd Prydain o 2.7% i 5.1%.

Gwlad enedigol 1951 - 2011

Gwlad enedigol 1951 – 2011

Ffynhonnell 2011: tabl KS204

Yn ninasoedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd y gwelwyd y cynnydd mwyaf o ran niferoedd y rhai a oedd wedi eu geni y tu allan i Gymru neu Loegr.

Newid niferoedd poblogaeth yn ôl gwlad enedigol yn ôl sir 2001-11

Newid niferoedd poblogaeth yn ôl gwlad enedigol yn ôl sir 2001-11

Ffynhonnell: teclyn cymharu Cyfrifiad 2001 a 2011 y SYG (v2.5) (ffeil zip 3.63Mb)

Mae map sy’n dangos pa ganran a anwyd y tu allan i Gymru, yn ôl Cymuned yma.

Cyfansoddiad y boblogaeth: hunaniaeth ac ethnigrwydd

Yn y siart nesaf mae maint bloc yn adlewyrchu’r ganran o’r boblogaeth oedd yn perthyn iddo yn 2011.

Hunaniaeth genedlaethol ac ethnigrwydd poblogaeth 2011

Hunaniaeth genedlaethol ac ethnigrwydd poblogaeth 2011

Ffynhonnell: tabl DC2202 Cyfrifiad 2011

Mae’r siart nesaf yn dangos cyfansoddiad y grwpiau ethnig gwahanol yn ôl hunaniaeth genedlaethol yn 2011.

Hunaniaeth genedlaethol yn ôl grŵp ethnig, 2011

Hunaniaeth genedlaethol yn ôl grŵp ethnig, 2011

Ffynhonnell: tabl DC2202 Cyfrifiad 2011